Pum person wedi dianc o dân mewn tŷ yng Nghonwy

Berth y Glyd Road Image copyright Google
Image caption Fe gafodd y gwasanaeth tân ei alw i'r digwyddiad ar Ffordd Berth y Glyd am 09:55 fore Sadwrn

Mae pum person wedi cael eu cymryd i'r ysbyty am archwiliad iechyd yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghonwy.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd ei alw i'r digwyddiad ar Ffordd Berth y Glyd yn Hen Golwyn am 09:55 fore Sadwrn.

Fe wnaeth pum person oedd yn y tŷ ar y pryd ddianc o ffenestr ar y llawr cyntaf.

Fe gafodd y pump - dynes yn ei 30au, dyn yn ei 20au, dyn yn ei 80au a dau o blant - eu cymryd i Ysbyty Glan Clwyd rhag ofn bod ganddyn nhw anafiadau, ond dywedodd y gwasanaeth tân nad oedd adroddiadau o unrhyw anafiadau.

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn ymchwil i achos y tân, wnaeth ddifrod sylweddol i'r tŷ.

Dywedon nhw fod tai gerllaw wedi cael eu gwagio yn ogystal oherwydd y mwg.

Fe gafodd pedair injan dân o Fae Colwyn, Abergele a'r Rhyl eu gyrru i'r digwyddiad.