Deifiwr wedi'i achub oddi ar arfordir Môn

Gwylwyr y Glannau
Image caption Fe gafodd Wylwyr y Glannau Caergybi eu galw am 12:55 brynhawn Sadwrn

Bu rhaid i Wylwyr y Glannau achub deifiwr oddi ar arfordir Ynys Môn brynhawn Sadwrn.

Fe gafodd orsaf Caergybi ei galw am 12:55 i gwch deifio ger Bae Cemaes, wedi i un aelod o'r criw fynd i berygl ar ôl i'r cwch dorri i lawr.

Cafodd pedwar bad achub a hofrennydd o'r Fali eu hanfon allan at y deifwyr, oedd yn chwilio llongddrylliad.

Fe gafodd y dyn ei ddarganfod yn ddiogel ac fe dynnwyd y cwch yn ôl i'r lan.