Ymchwiliad i farwolaeth 'aneglur' dynes ym Mae Colwyn

Marwolaeth Bae Colwyn
Image caption Fe gafodd y tŷ ym Mae Colwyn ei gau wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad

Mae'r heddlu'n dweud bod marwolaeth dynes gafodd ei darganfod mewn tŷ ym Mae Colwyn yn aneglur, ond nid yn amheus.

Fe gafodd yr heddlu eu galw gan griwiau ambiwlans am 12:20 ddydd Sadwrn ar ôl i gorff y ddynes 20 oed gael ei ddarganfod yn ei chartref.

Fe gafodd y tŷ ei gau wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi pasio ffeil ymlaen i'r crwner.