'Brwydr cyfiawnder' goroeswyr afiechyd thalidomide

Jacqui Lines, Jill Evans a Phil Williams Image copyright Plaid Cymru
Image caption Mae Jill Evans (canol) yn cefnogi goroeswyr thalidomide, Jacqui Lines a Phil Williams

Mae pobl o Gymru gafodd eu gadael yn anabl gan sgandal y cyffur thalidomide yn cael eu cefnogi yn eu cais am iawndal gan Aelod Senedd Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans.

Fe wnaeth hi ymuno ag ymgyrchwyr ym Mrwsel yn galw ar lywodraeth Yr Almaen i wneud yn iawn â goroeswyr gafodd eu geni gydag anableddau yn y 1950au a 60au.

Roedd y cyffur Almaeneg, gafodd ei dynnu 'nôl yn 1961, wedi cael ei argymell i famau beichiog i helpu gyda salwch s diffyg cwsg.

Dywedodd Ms Evans ei bod yn cefnogi "brwydr cyfiawnder" y goroeswyr.

Fe gafodd dros 10,000 o fabanod ar draws y byd eu geni gydag anableddau a phroblemau eraill yn gysylltiedig â thalidomide cyn iddo gael ei dynnu 'nol gan ei wneuthurwr, Grunenthal.

£40m o iawndal

Fe wnaeth gwneuthurwr y cyffur yn y DU, Distillers, gytuno yn 1973 i dalu dros £20m o iawndal i deuluoedd gafodd eu heffeithio, ac yn 2009, fe wnaeth y llywodraeth Lafur ymddiheuro'n gyhoeddus ac addo £20m arall o iawndal.

Ond mae ymgyrchwyr eisiau i lywodraeth Yr Almaen i egluro os oedd ganddo rôl yn cwtogi prawf trosedd naw o gyfarwyddwyr a staff Grunenthal yn 1970 heb i unrhyw un eu cael yn euog.

Mae goroeswyr yn honni nad ydyn nhw wedi cael iawndal digonol o ganlyniad.

Dywedodd Ms Evans: "Mae'n rhaid i ni barhau i roi pwysau ar lywodraeth Yr Almaen i fod yn agored am yr hyn sydd wedi mynd 'mlaen, a gwneud yn iawn â goroeswyr thalidomide."