Halen Môn yn galw ar y DU i aros yn Ewrop

Halen Môn
Image caption Mae Halen Môn wedi cael statws gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwarchod y cynnyrch

Mae busnes Cymraeg Halen Môn wedi dweud y dylai'r DU aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y cwmni o Ynys Môn, sy'n allforio halen ar draws y byd, wrth raglen BBC Sunday Politics Wales bod yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi iddyn nhw wneud defnydd o "un o'r economïau mwyaf yn y byd".

Mae llywodraeth David Cameron wedi dweud y bydd refferendwm yn cael ei gynnal cyn diwedd 2017 am aelodaeth y DU yn Ewrop.

Mae Halen Môn wedi cael statws gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwarchod y cynnyrch - yr un statws a siampên a ham Parma.

Dywedodd y cwmni eu bod yn allforio traean o'i gynnyrch, a bod tri-chwarter hynny yn cael ei werthu i wledydd arall yr Undeb Ewropeaidd.

Pan ofynnwyd iddi a ddylai'r DU aros yn Ewrop, dywedodd Eluned Davies o Halen Môn: "Yn bendant. Mae gennym ni farchnad o 500 miliwn o bobl yn Ewrop.

"Mae Ewrop yn un o'r economïau mwyaf yn y byd, gallwn ni weithio gyda'r economi yna i wneud cytundebau gyda gwledydd eraill fel China a'r Unol Daleithiau."

Image caption Dywedodd Ken Beswick y byddai masnach yn parhau pe bai'r DU yn gadael Ewrop

Ond, dywedodd berchennog cwmni printio Promocorp Ltd o Gwmbrân, Ken Beswick, wrth yr un rhaglen na fyddai gadael Ewrop yn "yr hunllef mae rhai pobl yn meddwl y byddai."

Dywedodd Mr Beswick, oedd yn ymgeisydd UKIP yn Nhorfaen yn yr etholiad cyffredinol: "Bydd masnach yn parhau ac, yn syml, fe fydd rhaid i fusnesau'r DU addasu i'r sefyllfa newydd."

Bydd Sunday Politics Wales ar BBC One Wales am 12:00 ddydd Sul.

Straeon perthnasol