Lee Selby yn bencampwr bocsio'r byd

Evgeny Gradovich a Lee Selby Image copyright Getty Images

Mae'r bocsiwr Lee Selby wedi llwyddo i fod y 12fed pencwmpwr byd Cymraeg erioed ar ol buddigoliaeth dros Evgeny Gradovich o Rwsia i ennill teitl IBF pwysau plu.

Fe wnaeth y Cymro, 28 oed, focsio o bosib ei ornest orau erioed, gan wneud y pencampwr o Rwsia i edrych yn gyffredin ar adegau.

Yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pennau'r ddau yn y seithfed rownd, fe gafodd Gradovich anaf drwg i'w lygad dde ac fe wnaeth y doctor ddod a'r ornest i ben yn y rownd nesaf.

Am mai damweiniol oedd y gwrthdrawiad, bu'n rhaid i'r beirniaid gyhoeddi'r enillydd - gyda'r tri yn sgorio'r ornest o blaid Selby, 79-73, 80-72, 79-73.

Dyma'r tro cyntaf i Gradovich golli, ac mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod record Selby yn gwella i 21 buddugoliaeth ac un maeddiad.