Dathlu penblwydd y Frenhines yn y Senedd

senedd
Image caption Fe fydd y cyfarchiad i'w weld am hanner dydd tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd

Fe fydd cyfarchiad 21 ergyd milwrol y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, i ddathlu dyddiad coroni y Frenhines, ac hefyd ar 13 Mehefin i ddathlu ei phen-blwydd swyddogol.

Yn dilyn y cyfarchiad i ddathlu dyddiad coroni'r Frenhines 62 mlynedd yn ôl, cynhelir derbyniad yn y Pierhead gan Ysbyty Maes (Cymru) 203 a fu'n gwasanaethu ar flaen y gad yn Afghanistan yn 2013.

Bydd Catrawd 104 y Magnelau Brenhinol yn tanio'r gynnau o flaen y Pierhead ar y ddau achlysur a bydd y cyfarchiad am 12.00.

Image caption Fe gafodd y Frenhines Elizabeth II ei choroni ym Mehefin 1953