Niferoedd sy'n dysgu ieithoedd tramor yn gostwng

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Arwyn Jones

Mae "cwymp sylweddol" yn nifer y plant sy'n dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn ôl astudiaeth.

Toriadau mewn cyllidebau, amserlenni gorlawn a systemau asesu sy'n cael y bai.

Mae nifer y disgyblion sy'n dewis astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer TGAU wedi haneru ers 2002.

Mae'r gweinidog addysg Huw Lewis wedi cyhoeddi "cynllun radical a newydd" gan gynnwys sefydlu canolfannau rhagoriaeth mewn ysgolion.

Yn ôl yr adroddiad gan y Cyngor Prydeinig ac Ymddiriedolaeth Addysg CfBT mae yna "ddiffyg egni" o fewn y pynciau, ac mae ychydig iawn o obaith o welliant sydd ar y gorwel.

Yn 2005, roedd 12,826 o blant yn astudio iaith dramor ar lefel TGAU, ond erbyn 2014 roedd y nifer wedi gostwng i 8,601.

Cymerodd bron i ddwy ran o dair o ysgolion uwchradd ran yn yr arolwg.

Er y bu gostyngiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor mewn rhannau eraill o'r DU, mae Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno dau bolisi i gynyddu'r ddarpariaeth.

Ers mis Medi 2014 mae plant ysgolion cynradd Lloegr yn gorfod dysgu iaith fodern neu hynafol.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i bob disgybl astudio iaith dramor ystod y tair blynedd gyntaf yn yr ysgol uwchradd yng Nghymru. Ond yn ôl yr adroddiad dim ond "ychydig bach o iaith sylfaenol" mae llawer o ddisgyblion yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

Dysgu Sbaeneg

Image caption Mae disgyblion yn Abertyleri yn cael cynnig dysgu Sbaeneg

Mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Abertyleri yn cael y dewis o ddysgu Sbaeneg yn unig fel iaith fodern, gan nad yw Ffrangeg ac Almaeneg bellach ar gael.

Roedd Ffrangeg ac Almaeneg yn cael eu gweld fel ieithoedd anodd, tra roedd Sbaeneg yn ymddangos yn fwy poblogaidd ymysg disgyblion, ffactor arall oedd disgyblion yn trio dysgu Cymraeg.

Dywedodd Melanie Gill, pennaeth ieithoedd yr ysgol, fod llawer o waith i'w wneud.

"Mae'n ymddangos fod disgyblion yn cysylltu ieithoedd gwahanol â gweithio dramor. Nid ydynt yn ystyried y gall iaith dramor fod yn fantais i gael swyddi gyda chwmnïau lleol hefyd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis fod sgiliau iaith yn bwysig ar gyfer swyddi a busnesau yng Nghymru.

Mae ei gynllun newydd yn cynnwys:

  • Dyfodol byd-eang - cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern.
  • Gwneud pedair ysgol uwchradd ledled Cymru yn ganolfannau rhagoriaeth rhanbarthol.
  • Cysylltu ysgolion â sefydliadau iaith er mwyn gweithio i wella safonau addysgu.
  • Sicrhau fod arbenigwyr o ysgolion, prifysgolion, Estyn, Cyngor Prydeinig a sefydliadau eraill yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu'n llawn
  • Edrych i weithio gyda'r Brifysgol Agored, y BBC a defnyddio technoleg ddigidol newydd i wella'r profiad o ddysgu iaith i ddisgyblion ac athrawon."

Dywedodd Mr Lewis: "Nid yw'r broblem hon yn unigryw i Gymru, ond rwyf yn benderfynol o fynd i'r afael a hi.

"Rwyf am sicrhau bod mwy a mwy o'n pobl ifanc yn mynd ati i ddewis astudio iaith dramor fodern fel rhan o'u haddysg ysgol, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn economi fodern fyd-eang."