Agor ffatri'n dod â gobaith am 100 o swyddi

Calbee Image copyright Calbee
Image caption Calbee yw cwmni byrbrydau mwyaf Japan

Mewn seremoni arbennig ddydd Mawrth mae cwmni Calbee UK wedi agor canolfan newydd ar Lannau Dyfrdwy yn swyddogol - canolfan allai arwain at 100 o swyddi newydd.

Mae'r busnes byrbrydau o Japan wedi agor y ganolfan gwerth £6.5m, gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, fydd yn cynhyrchu cynnyrch newydd i'r farcharnad byrbrydau yn y DU, ac fe fydd y cynnyrch cyntaf newydd yn cael ei lansio'n ddiweddarach yn y mis.

Cyhoeddodd y gweinidog busnes Edwina Hart, ynghyd â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Calbee, Akira Matsumoto, y byddai'r ffatri'n dod i Gymru yn ystod ymweliad â Japan ym mis Hydref y llynedd.

Dyma fydd ffatri gynta'r cwmni yn Ewrop.

Mae'r safle newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu, dosbarthu ac ymchwil.

Bydd y buddsoddiad yn creu 100 o swyddi dros bum mlynedd.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Calbee UK, Richard Robinson: "Hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr am eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf.

"Dyw sefydlu ffatri newydd ddim yn hawdd. Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniadau ac yn edrych ymlaen at ddod â rhywbeth gwbl newydd i'r farchnad byrbrydau yn y DU."

Straeon perthnasol