Milwr o Fae Colwyn wedi marw

Gareth Jenkins
Image caption Llun o'r Is-gapten Gareth Jenkins a dynnwyd yn 2007 pan oedd yn 17 oed

Mae'r Llynges Frenhinol wedi cadarnhau mai'r is-gapten Gareth Jenkins o Fae Colwyn fu farw ar ymarferiad yn Dartmoor ddydd Iau diwethaf.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Llun bod milwr dan hyfforddiant yng Nghanolfan Hyfforddi'r Commandos yn Lympstone, Dyfnaint, wedi marw wrth gymryd rhan mewn gorymdaith 30 milltir, ond nad oedd achos ei farwolaeth yn hysbys.

Roedd y diwrnod yn rhan arferol o gwrs hyfforddi 32 wythnos y ganolfan.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran y Llynges Frenhinol:

"Gyda thristwch yr ydym yn cadarnhau marwolaeth yr is-gapten Gareth Jenkins, swyddog dan hyfforddiant gyda'r Marines brenhinol yng Nghanolfan Hyfforddi Lympstone.

"Mae cydymdeimlad a meddyliau Gwasanaeth y Llynges gyda'i deulu a'i ffrindiau yn y cyfnod hwn.

"Mae'r digwyddiad yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ac ni fyddai'n briodol i wneud sylw pellach wrth i'r broses fynd rhagddi."