Croesawu penderfyniad Sepp Blatter i adael Fifa

Sepp Blatter Image copyright Getty Images
Image caption Sepp Blatter

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, wedi croesawu penderfyniad Sepp Blatter i ymddiswyddo fel llywydd Fifa.

Mae Blatter wedi galw cyfarfod arbennig mor fuan â phosib i ethol llywydd newydd.

Dywedodd Ford y dylai Blatter wedi penderfynu rhoi'r gorau cyn llwyddo i gael ei ail ethol yr wythnos diwethaf.

"Mae o wedi bod yn arweinydd ffantastig, ond mae modd dadlau ei bod wedi aros yn y swydd ychydig yn rhy hir," meddai.

"Rydym yn croesawu'r newyddion ac yn credu y bydd arweinydd newydd yn fodd i alluogi Fifa a phêl-droed."

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru bleidleisio dros Tywysog Prince Ali bin al-Hussein yn hytrach na Blatter yn y bleidlais yn Zurich ddydd Gwener ddiwethaf.

Llwyddodd Blatter i sicrhau buddugoliaeth er bod Fifa yn wynebu sgandal a honiadau o lwgrwobrwyaeth.

Mae'r FBI wedi arestio 14 o bobl, ac mae'r awdurdodau yn y Swistir yn cynnal ymchwiliad ar wahân i honiadau o lwgrwobrwyo yn y broses o benderfynu pa wledydd fyddai'n cynnal Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.

Image copyright Getty Images
Image caption Prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Jonathan Ford