'Mynd i'r afael â Hawl i Brynu'

Yn ôl llywodraeth Cymru, mae ymgynghoriad yn dangos fod pobl yn cefnogi cynlluniau i ddirwyn cynllun sy'n gadael i denantiaid cartrefi cymunedol brynu eu tai, i ben.
Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Tai, Bapur Gwyn yn nodi ei bwriad i ddirwyn y cynllun Hawl i Brynu i ben a haneru uchafswm y gostyngiad fydd ar gael i bobl sydd eisiau prynu eu tŷ cyngor. Bellach, £8,000 fydd uchafswm y gostyngiad a fydd ar gael.
Mewn datganiad ddydd Mercher, fe ddywedodd y llywodraeth fod canlyniadau'r ymgynghoriad yn golygu y byddant "yn mynd i'r afael â'r Hawl i Brynu a hynny er mwyn amddiffyn tai cymdeithasol Cymru".
Roedd 76% o'r rhai ymatebodd i'r ymgynghoriad - yn cynnwys awdurdodau lleol, tenantiaid cymdeithasau tai a thai cymdeithasol - yn cefnogi lleihau'r gostyngiad uchaf a ganiateir ar bris gwerthu eiddo ac roedd 63% o blaid llunio deddfwriaeth i ddirwyn yr Hawl i Brynu i ben.
Roedd 94% o'r ymatebwyr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru helpu pobl pan nad yw'r farchnad dai yn gallu cwrdd â'u hanghenion.
Hefyd, roedd tri chwarter yr ymatebwyr yn teimlo y dylid cymryd camau i amddiffyn stoc tai cymdeithasol Cymru.
'Mater pwysig iawn'
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, mae'r Gweinidog yn mynd ati'n syth i leihau'r gostyngiad yr haf hwn. Mae hi wedi dechrau llunio deddfwriaeth er mwyn dirwyn y cynllun Hawl i Brynu i ben.
Bydd y Llywodraeth yn ystyried y ddeddfwriaeth yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.
Dywedodd Lesley Griffiths: "Rydw i'n falch iawn bod pobl allweddol yn y sector tai, gan gynnwys tenantiaid, wedi defnyddio'r ymgynghoriad i leisio'u barn ar fater pwysig iawn.
"Mae'r ymgynghoriad ar ein cynigion wedi rhoi sylw amlwg i safbwyntiau diddorol ar anghenion tai Cymru ac mae wedi dangos bod pobl yn cefnogi'r angen i amddiffyn ein stoc tai cymdeithasol.
"Bydd y camau bwriadol rydym yn eu cymryd o gymorth i leihau'r pwysau sydd ar ein stoc dai ac yn amddiffyn ein stoc tai cymdeithasol. Mae hyn yn ychwanegol at y £400 miliwn rydym yn ei fuddsoddi mewn tai fforddiadwy drwy ein Grant Tai Cymdeithasol."