Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn cwrdd

Carwyn Jones (chwith) yn cyfarfod â Nicola Sturgeon a gweddill penaethiaid yr awdurdodau datganoledig yn 2011
Image caption Carwyn Jones (chwith) yn cyfarfod â Nicola Sturgeon a gweddill penaethiaid yr awdurdodau datganoledig yn 2011

Mae Prif Weinidogion Cymru a'r Alban - Carwyn Jones a Nicola Sturgeon - yn cwrdd i drafod yng Nghaeredin ddydd Mercher.

Mae disgwyl i'r ddau drafod y refferendwm Ewropeaidd, a chynlluniau llywodraeth San Steffan i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol a chyflwyno mesur yn ei lle.

Eisoes, mae llywodraethau Cymru a'r Alban yn gwrthwynebu'r cynllun i gyfnewid y ddeddf am fesur hawliau.

Yn ogystal, mae'r ddau awdurdod yn awyddus i'r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r SNP wedi galw ar i Gymru a'r Alban fod â feto effeithiol yn y refferendwm, gan olygu y byddai'n rhaid i holl genhedloedd y DU bleidleisio 'na' cyn i'r DU allu gadael yr undeb.

Ddoe, fe ddisgrifiodd Mr Jones y syniad hwnnw fel un "cywir, yn foesol" ond "anodd yn gyfreithiol".

Yn ôl llefarydd ar ran Mr Jones: "'Dy ni'n disgwyl y bydd y pynciau hynny'n cael eu trafod, yn ogystal â'r sefyllfa economaidd a'r berthynas rhwng llywodraethau".