Arwain y gân yn Nyffryn Nantlle

Anthem

Oes gan eich hardal chi anthem? Creu cân rymus i ddathlu rhinweddau'r gymuned ydi canolbwynt prosiect uchelgeisiol sydd wedi bod ar y gweill yn ystod y misoedd diwethaf yn Nyffryn Nantlle.

Gallwch ddysgu fwy am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y gornel hon o Wynedd yn Anthem Dyffryn Nantlle ar Radio Cymru sy'n cael ei darlledu fel rhan o Ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC ar 5 Mehefin.

Gweledigaeth Craig ab Iago ydi'r prosiect. Bu'n dweud rhagor wrth Cymru Fyw am y cynllun uchelgeisiol:

Gwreiddiau

Er bod fy ngwreiddiau yn Nyffryn Nantlle yn ddwfn (cafodd fy hen nain ei geni yn Llanllyfni ac mae fy mam o Benygroes) tan 2008 doeddwn erioed wedi byw yma ac yn gwybod fawr ddim am yr ardal.

Yn wir gyda fy synwyrusrwydd dosbarth canol ac enw da Dyffryn Nantlle fel y Gorllewin Gwyllt roeddwn ychydig yn bryderus am symud i Lanllyfni, ac yn ei weld fel symudiad dros dro yn unig.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae gen i Hogan Llan fel partner, Hogyn Llan fel mab (gydag un arall ar y ffordd), yn Gynghorydd Sir dros ward Llanllyfni, ac yn falch iawn o hynny.

Image caption Rhai o gerddorion ifanc Dyffryn Nantlle yn helpu i greu anthem i'r ardal

Dyffryn unigryw

Mae'r rheswm am hynny yn syml. Rwyf wedi byw ar bob cyfandir yn y byd mewn rhai mannau ffantastig ond chefais erioed y profiad o'r hyn rwyf wedi ei ddarganfod yma yn Nyffryn Nantlle.

Mae ganddo gyfuniad unigryw o hanes, diwylliant, iaith, golygfeydd godidog, ac ysbryd cymunedol anhygoel yn seiliedig ar werth canrifoedd o gydraddoldeb a balchder cyfarwydd.

Mewn gwirionedd yr unig beth nad oes gennym yw tywydd da, ond nid ein bai ni yw hynny.

Er gwaethaf hyn, mae'r ardal wedi disgyn ar amseroedd caled. Mae ein diwydiant wedi hen fynd, mae ein siopau a'n tafarndai yn cau, ac mae ein tai yn cael eu prynu fel ail gartrefi.

Cawsom ein disgrifio yn ddiweddar gan un o swyddogion y llywodraeth fel ardal "teithio i'r gwaith", sydd mewn geiriau eraill yn golygu: "rydym wedi rhoi'r gorau arnoch chi".

Diogelu'r dyfodol

Er nad wyf yn ffan mawr o bobl o'r tu allan yn meddwl eu bod yn gwybod beth sydd orau i gymunedau, mae'n anodd i mi sefyll i un ochr a gwylio wrth i ni golli'r pethau sy'n ein gwneud yn unigryw, yn enwedig gan fod dyfodol Dyffryn Nantlle rŵan yn ddyfodol i fy mab hefyd.

Rwy'n rhan o Ddyffryn Nantlle 20:20, grŵp sydd yn ceisio adeiladu ar y pethau gwych yn ein hardal. Un o'n cryfderau diamheuol yw cerddoriaeth; mae Cefin Roberts, Bryn Fôn a Bryn Terfel i gyd yn feibion ​​y dyffryn.

Image caption Bryn Fôn yn rhoi arweiniad cerddorol i rai o bobl ifanc Dyffryn Nantlle

Er mwyn effeithio ar newid mae angen i chi symud pobl yn emosiynol ac mae cerddoriaeth yn un o'r ffyrdd gorau i wneud hynny, felly un o brosiectau Dyffryn Nantlle 20:20 yw ceisio creu cân Gymreig gyfoes sy'n dathlu bywyd yn ein hardal ac yn rhoi rheswm i ni ganu.

Yr wyf eisiau cân gall ein pobl ifanc uniaethu gyda hi, cân fydd pobl eisiau'i rhoi ar y jiwcbocs pan fyddant wedi cael un neu ddau yn y dafarn, cân sy'n gwneud i bobol leol lenwi gyda balchder pan fyddant yn ei chlywed.

'Dagrau'n disgyn'

Mae'r ddau Fryn, Cefin, Karen Owen, Justin Davies, Annette Bryn Parri, Y Rhacs, Y Reu, Mali Llyfni, Sarah Louise, a phoblogaeth dan 16 oed y dyffryn yn ei chyfanrwydd mwy neu lai yn cymryd rhan yn y prosiect, a'r tro cyntaf clywodd y cyhoedd y gân, syrthiodd ychydig o ddagrau, felly rwy'n hyderus fod y freuddwyd yn dod yn realiti.

Gobeithio y byddwn yn ennill digon o arian o werthiant y gân i ariannu prosiect arall o'r maint hwn (mae'r prosiect yma wedi cael ei wneud ar ewyllys da yn unig).

Mae wedi bod yn flwyddyn ers y cychwyn ac mae yna rai rhwystrau mawr i'w goresgyn, ond byddwn yn cyrraedd yno, mae Dyffryn Nantlle y math o le sy'n haeddu anthem.

Anthem Dyffryn Nantlle, BBC Radio Cymru, Dydd Gwener, 5 Mehefin, 18:15

Image caption Mae'r brwdfrydedd yn heintus am gael anthem Dyffryn Nantlle