Addysg ryw arloesol Abertyleri

Ar 15 Mehefin 1925, agorodd clinig arloesol yn Ysbyty Abertyleri - clinig a oedd yn rhoi cyngor am atal cenhedlu. Hwn oedd y cyntaf o'i fath ym Mhrydain, a bu gwrthwynebu llym iddo, yn enwedig gan bobl crefyddol y dref. Mae'n debyg mai'r gwrthwynebiad oedd un o'r prif resymau pam gaeodd y clinig 16 mis yn ddiweddarach.

Mae Dr Rhian Williams yn feddyg teulu ac yn gweithio mewn meddygfa yn ardal Abertyleri. Mae hi'n rhannu ei phrofiadau o weithio yn yr ardal gyda Cymru Fyw, yn enwedig y broblem sydd yn dod o geisio cynghori ar atal cenhedlu:

Arloesol

Mae'n debyg y bu Cymru, ac yn arbennig ardal Blaenau Gwent, ar flaen y gad yn y mudiad darparu gwasanaeth atal cenhedlu i fenywod nôl yn yr 1920au.

Yn Abertyleri, lle rydw i'n gweithio, agorwyd y clinig cyntaf o'r fath, ac yn erbyn cryn wrthwynebiad mae'n debyg. Mewn ardal gymunedol, draddodiadol a chrefyddol, yn amlwg roedd atal cenhedlu yn gysylltiedig ag erthylu ac ymddygiad anfoesol.

Erbyn hyn, mae gwasanaethau lu at law merched Blaenau Gwent. Mae yna nifer o glinigau atal cenhedlu o fewn clinigau lleol ac ysbytai. Yn ogystal â hyn, mae rhai meddygon teulu fel fi yn medru darparu nifer o ffyrdd o atal cenhedlu yn ein meddygfeydd lleol.

Mewn ardal sydd â rhwydwaith trafnidiaeth braidd yn wasgaredig, mae gwasanaeth stepen drws yn hanfodol i ddenu merched y cwm i ofyn am help.

Er hynny, mae cymoedd y de, ac yn arbennig Blaenau'r Cymoedd a Blaenau Gwent, dal ymysg yr ardaloedd sydd â'r niferoedd uchaf o ferched sy'n cwympo'n feichiog yn eu harddegau; nid yn unig yng Nghymru a'r DU, ond yn Ewrop.

Image copyright Casgliad y Werin Cymru
Image caption Staff Ysbyty Abertyleri tua'r 1940au - roedd y clinig arloesol wedi hen gau erbyn hynny

'Stigma'

Mae'n siŵr bod nifer o resymau y tu ôl i'r ystadegau.

Cymunedau clos a thraddodiadol sy'n bodoli yn y cymoedd, lle mae pawb yn adnabod pawb ac mae yna deimlad bod pawb yn gwybod busnes pawb.

I ferch sydd angen cyngor am atal cenhedlu neu iechyd rhyw, mae'n rhaid ei bod hi'n anodd gofyn am help ac i fynd i sefydliad sy'n arbennig at y bwriad yma.

Fel merch sy'n hanu o'r ardal yn ogystal â gweithio yma erbyn hyn, dwi'n dyst i'r faith bod y stigma sydd o hyd yn bodoli o gwmpas trafod iechyd rhyw a defnyddio'r gwasanaethau yma yn medru bod yn rhwystr mawr.

Yn fy mhrofiad i fel meddyg teulu, dyma un o'r rhesymau pam bod merched yn hoff o ddod at eu meddyg teulu am y fath wasanaeth megis y Depo-Provera, Nexplanon neu'r coil.

Wedi'r cyfan, gallet ti fod yn ymweld â'r meddyg teulu am amryw o resymau. Does dim arwydd mawr ar y drws yn datgan pam rwyt ti wedi dod i weld y meddyg!

Disgwyliadau isel yn ffactor?

Er hynny, gyda'r cynnydd yn y nifer y clinigau a meddygon teulu sydd â'r sgiliau i ddarparu'r fath wasanaeth, a'r agwedd fwyfwy agored at atal cenhedlu sy'n bodoli'n gyffredinol, mae angen ystyried pam bod cynifer o ferched yn cwympo'n feichiog yn ifanc.

Mae yna nifer o resymau am hyn, gan gynnwys disgwyliadau isel o gyfleoedd addysg a gwaith, diffyg gwybodaeth am ddulliau atal cenhedlu, a negeseuon cymysg gan oedolion ynglŷn â rhyw ac atal cenhedlu.

Wedi dweud hyn i gyd, mae'r ffigurau beichiogrwydd ifanc yn gostwng yn gyffredinol ac yn 2011 gwelodd Blaenau Gwent y gostyngiad mwyaf dros y DU o 32% - 'falle ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn?

Mwy i'w wneud

Un peth sydd yn sicr, mae angen mwy o addysg ynglŷn â rhyw a pherthnasau, ac agwedd mwy agored tuag at ryw gan bawb o fewn y gymuned er mwyn annog pobl ifanc y cymoedd i wneud penderfyniadau gwahanol.

Mae rhyw o'n cwmpas ym mhob man - ar y teledu ac mewn cylchgronau di-ri. Ond pwy sy'n siarad 'da'r bobl ifanc am y pwnc mewn modd synhwyrol a chyfrifol? Mae'n hen bryd i ni normaleiddio'r pwnc ac i ni fel cymuned ddilyn cyngor Salt-N-Pepa yn eu cân - "let's talk about sex"!