'Angen gwrando mwy ar gwmnïau bwyd bach'

Bwyd
Image caption Dr Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd

Mae arbenigwraig blaenllaw ar y diwydiant bwyd a diod wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i wrando ar fusnesau bychain ynglŷn â'r heriau maen nhw'n eu hwynebu.

Yn ôl Dr Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd mae nifer o gynhyrchwyr yn ei chael hi'n anodd tyfu eu cwmnïau, gyda rhai'n gorfod gwerthu eu busnesau i gwmnïau y tu hwnt i Glawdd Offa.

Daw ei sylwadau wrth i'r beirniadu ar gyfer prif wobrau bwyd a diod Prydain ddod i Gymru am y tro cynta' erioed.

Dros dridiau, mae beirniaid y Great Taste Awards wedi bod yn blasu bron i bum cant o ddanteithion ym Mae Caerdydd.

Cystadleuaeth

Mae'r gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth, gyda nifer y cynhyrchwyr Cymreig sy'n cymryd rhan eleni wedi dyblu a Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y trefnwyr yma i feirniadu.

Eu nod yw tyfu'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru 30% erbyn 2020, fel ei fod yn cyfrannu £7bn i'r economi.

Mae dros 14,000 o fusnesau yn y sector, y rhan fwyaf yn rhai bychain.

Ond yn ôl Dr Sonnino, sydd wedi astudio'r sector cynhyrchu bwyd ar draws y DU, mae angen mwy o gefnogaeth ar gwmnïau Cymreig, yn enwedig wrth ehangu.

"Heb os nac oni bai mae 'na rwystrau amlwg yn eu hwynebu," meddai.

"Ydi cwmnïau bychain yn gallu benthyg arian yn ddigon hawdd? Oes 'na ddigon o gyfle iddyn nhw rwydweithio a dysgu gan eraill? Oes 'na gyfleoedd i gydweithio?"

"Ry'n ni'n gwneud yn well na neb yng Nghymru wrth lansio cynlluniau peilot ond mae angen parhau gyda'r gefnogaeth yma."

Cyflenwi archfarchnadoedd

Yn ddiweddar penderfynodd Allie Thomas a'i mam Ellie - perchnogion Bisgedi Sawrus Cradoc's yn Aberhonddu gydweithio a chwmni sy'n fwy profiadol er mwyn dechrau cyflenwi'r archfarchnadoedd.

Ond mae hynny wedi golygu symud eu gwaith cynhyrchu o Aberhonddu i Coventry.

Mae 'na lu o gynhyrchwyr bwyd a diod adnabyddus o Gymru bellach yn nwylo cwmnïau dros y ffin - fe aeth rheolaeth Rachel's Dairy i Ffrainc, Dŵr Brecon i Wlad Belg a Thŷ Nant i'r Eidal.

"Ein bwriad oedd gallu allforio yn eang a chynhyrchu nifer fawr o fisgedi, ond roedd hi'n anodd dod o hyd i gynhyrchwr mwy yng Nghymru," meddai Allie.

Image caption Allie Thomas, o gwmni Bisgedi Cradoc's yn Aberhonddu

Mae hi'n canmol Llywodraeth Cymru am eu cefnogi wrth ddechrau'r busnes ond yn dweud bod 'na heriau amlwg wrth geisio mynd gam ymhellach.

"Mae 'na fwlch - o ran cyllid, hyder a sicrhau twf eich busnes. Mae'n rhaid i'ch marchnad chi fod yn enfawr y dyddiau hyn os ydych chi isio bod yn llwyddiant - yn fwy o lawer na'r farchnad leol," meddai.

"Fe ddylai (Llywodraeth Cymru) drafod mwy gyda phobl ynglŷn â'r cam nesa - helpu chi ddod o hyd i gwmnïau allai gymryd gwaith gan gynhyrchwyr bychain."

Sector cyhoeddus

Mae Dr Sonnino hefyd yn credu y dylai cynnyrch o Gymru gael ei ddefnyddio gymaint ag sy'n bosib yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.

Ond mynnu bod ganddyn nhw "gynlluniau uchelgeisiol" ar gyfer y diwydiant mae Llywodraeth Cymru - gan gynnwys nawdd i arddangos cynnyrch dramor, a chefnogi busnesau i dyfu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans: "Mae gennym ni ganolfannau arloesi yng ngogledd a de Cymru er mwyn helpu cwmnïau ddatblygu eu cynnyrch."

"Ry'n ni'n cynnal digwyddiadau cyson lle mae modd i brynwyr gwrdd â'n cynhyrchwyr bychain - ry'n ni'n cadw mewn cysylltiad ac yn gwybod bod cytundebau yn cael eu sicrhau."

Gwobrau

Mae beirniaid gwobrau'r Great Taste Awards wedi bod yn profi bron i 500 o fwydydd a diodydd gan 143 o gynhyrchwyr yng Nghaerdydd.

Fe fydd y daith yn parhau drwy'r DU gydol mis Mehefin a Gorffennaf cyn i'r gwobrau gael eu cyflwyno'n swyddogol ym mis Awst.

Yn ôl Rhian Williams o gwmni danteithion Siwgwr a Sbeis, Llanrwst, sy'n feirniad eleni ond wedi ennill gwobrau yn y gorffennol, mae'n gyfle i arddangos y gorau o Gymru.

"Mae cael sticer y Great Taste yn hybu'r bwyd ac yn rhoi hyder i bobl ei brynu," meddai.

Fe ddywedodd beirniad arall, y cogydd Dudley Newbury, ei bod hi'n bwysig pwysleisio mai o Gymru y mae'r cynnyrch yn dod pan fo gwobrau'r gystadleuaeth Brydeinig hon yn cael eu cyflwyno yn y pendraw.

"Mae pobl yn dueddol o gysylltu cynnyrch fel cynnyrch Prydeinig. Ac mae angen i ni wahaniaethu o hynny er mwyn rhoi cydnabyddiaeth i ni'n hun," meddai.

"Ac mae angen i ni fel Cymry glodfori'r cynnyrch - dyw hynny ddim yn digwydd yn ddigon aml."

"Dydyn ni fel prynwyr bwyd ddim yn gweiddi digon am beth sy 'da ni ac yn sicr dyw rhai o'r tai bwyta sy 'da ni ddim yn defnyddio digon o fwydydd lleol chwaith."

Image caption Blasu rhai o'r danteithion ar gyfer y gystadleuaeth