Cynllun £30m i helpu pobl ddi-waith

Canolfan Byd Gwaith Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd y cynllun newydd yn cefnogi oedolion mewn 52 o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf

Mae cynllun gwaith gwerth £30m wedi ei lansio i helpu pobl ddi-waith i ddarganfod cyfleoedd am gyflogaeth.

Gan gyhoeddi'r cynllun ddydd Iau, dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths y byddai'n cefnogi 35,000 o oedolion dros dair blynedd.

Fe fydd dros 200 o arbenigwyr yn helpu pobl sy'n ei chael yn anodd darganfod gwaith oherwydd problemau gyda gofal plant, cymwysterau neu iechyd.

Mae cynllun Communities 4 Work ar gael i bobl dros 25 oed.