Dynes wedi marw ar ôl i'w char daro coeden ym Mhowys

Heddlu

Mae dynes wedi marw ar ôl i'w char adael y ffordd a tharo coeden ym Mhowys nos Fercher.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod y ddamwain wedi digwydd ar yr A483 rhwng Llanbister a Llanbadarn Fynydd.

Fe gafodd yr heddlu, parafeddygon a chriwiau tân eu galw i'r digwyddiad am tua 22:00.

Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau wrth i'r heddlu ymchwilio i achos y ddamwain.