Pryder cwmni bysiau am ffordd cyn marwolaeth dyn

Daniel Foss Image copyright South Wales Police
Image caption Bu farw Daniel Foss ar ol cael ei daro gan fws ym mis Medi 2013

Roedd cwmni bysiau yn bryderus am ddiogelwch cerddwyr ar ffordd yn Abertawe dros ddwy flynedd cyn i ddyn farw yno ar ôl cael ei daro gan fws.

Clywodd ail wrandawiad cyn-gwest i farwolaeth Daniel Foss bod cwmni First Cymru wedi gyrru llythyr at Gyngor Abertawe ym mis Ebrill 2011 yn datgan eu pryder am bobl yn croesi'r ffordd.

Fe gafodd Mr Foss, 37 oed o Reynoldston, Gŵyr, ei daro gan fws National Express ar Ffordd y Brenin ym mis Medi 2013.

Bydd cwest yn cael ei gynnal ym mis Medi.

Dywedodd grwner Abertawe, Colin Phillips, wrth y gwrandawiad ddydd Iau y bydd yn galw ar arbenigwr diogelwch ffyrdd i roi tystiolaeth yn y cwest.

Gofynnodd hefyd i gael gweld pob adroddiad am ddiogelwch y ffordd rhwng 2008-2014.