Gwrthod cwyn yn erbyn cyn-prif gwnstabl Heddlu Gwent

Carmel Napier and Jeff Farrar
Image caption Fe gafodd y cwyn yn erbyn Carmel Napier a Jeff Farrar ei wneud ym mis Gorffennaf 2014

Mae cwyn yn erbyn cyn-brif gwnstabl Heddlu Gwent a'i holynydd wedi ei wrthod.

Fe gafodd ymddygiad Carmel Napier a Jeff Farrar ei ymchwilio yn dilyn rhyddfarniad dau ddyn mewn achos o dwyll.

Aeth un o'r dynion - gweithiwr Cyngor Torfaen, Farooq Dastgir - i'r Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ym mis Gorffennaf y llynedd.

Fe wnaeth y comisiwn basio'r achos ymlaen i gael ei ymchwilio yn lleol, a ni chafodd unrhyw dystiolaeth ei ddarganfod.

Cafodd chwech o heddweision eu hymchwilio.

Straeon perthnasol