Elton John yn canslo cyngerdd yn y Swistir

Elton John
Image caption Roedd Syr Elton i fod i berfformio yng Ngenefa nos Fawrth

Mae'r canwr Syr Elton John wedi methu ymddangos mewn cyngerdd yng Ngenefa oherwydd anhwylder, ychydig ddyddiau cyn ei ymddangosiad cyntaf yng ngogledd Cymru.

Mewn datganiad ar ei wefan ddydd Mawrth, fe ddywedodd llefarydd ar ran y canwr fod y cyngerdd wedi ei ganslo nos Fercher o ganlyniad i haint ar ei wddw, a bod meddyg Syr Elton wedi ei orfodi i orffwyso ei lais ac i beidio â chanu na siarad.

Mae trefnwyr y noson yng ngogledd Cymru wedi dweud wrth Cymru Fyw eu bod nhw'n ffyddiog y bydd Elton John a'i fand yn parhau i ymddangos yn Stadiwm Eirias, Bae Colwyn, nos Sadwrn, fel rhan o'i daith Ewropeaidd.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am lwyfannu Gŵyl Access All Eirias, Orchard Entertainment, yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol fod Elton John wedi canslo ei gyngerdd yng Ngenefa. Ond yn ôl llefarydd ar ran Orchard Entertainment, mae cynlluniau ar gyfer y penwythnos yn mynd rhagddynt fel arfer.

'Edrych ymlaen'

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Elton John wrth Cymru Fyw ei fod "yn edrych ymlaen at ei holl sioeau yn y DU yr haf hwn."

Roedd Syr Elton eisoes wedi gaddo y bydd y perfformiad yn cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf eiconig, sy'n ymestyn dros gyfnod o bum degawd, gan gynnwys detholiad o ganeuon o'i albwm Goodbye Yellow Brick Road, oedd yn 40 oed y llynedd.

Fe fydd nifer o artistiaid eraill yn ymddangos yn yr ŵyl dros y penwythnos, gan gynnwys The Vamps, Foxes, HomeTown, Joe Woolford ac Only Boys Aloud.

Straeon perthnasol