Saith Diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau:

'Mae miloedd os nad miliynau o eiriau wedi'u hysgrifennu dros y mis diwethaf yn ymateb i'r etholiad cyffredinol, a gyda chyhoeddi Barn yr wythnos hon, mae nifer o'r colofnwyr yn ychwanegu atyn nhw.

Cafodd Guto Harri ei ddifyrru gan y ddrama wleidyddol ddiweddar yn rhengoedd y blaid Lafur sy'n deilwng o Sophocles neu Shakespeare - brawd bach yn chwalu cynlluniau brawd mawr ac yna gwneud smonach ohoni, a changhellor yr wrthblaid, un o sêr yr hen lywodraeth, yn ymaflyd â'r ffaith fod dathlu eang wedi iddo golli ei sedd, tra bod ei wraig yn ei chynnig ei hun fel achubiaeth i'w phlaid.

A dweud y gwir, medd Guto, yr unig beth yn y ddrama hon sy'n llethol o ragweladwy, digyffro a chwbl anysbrydoledig yw patrwm gwleidyddol Cymru.

Er gwaethaf teyrngarwch y wlad i'r blaid Lafur dros y ganrif ddiwethaf, does dim golwg o'r Cymry ymhlith ceffyl blaen Llafur yn senedd San Steffan. Pam? Neb yn deilwng? Neb â diddordeb? Does bosib meddai ein bod fel Cymry'n haeddu gwell?

Ble oedd Carwyn Jones?

Image caption Mae John Stevenson yn gofyn lle oedd Carwyn Jones yn ystod ymgyrch yr etholiad?

Ac ar yr un trywydd, darogan gwae i'r blaid Lafur mae John Stevenson. Yn ddiamau, dywed, hi oedd y blaid a gollodd fwyaf yng Nghymru yn nhanchwa Mai 7.

Ac un o'r rhesymau am hyn oedd methiant Llafur i addasu i'r patrwm gwleidyddol newydd yng Nghymru. Wyneb cyhoeddus ymgyrch Llafur oedd ei llefarydd yn Llundain ar faterion Cymreig, Owen Smith.

Cwestiwn John Stevenson yw ble'r oedd arf mwyaf effeithiol y Blaid Lafur yng Nghymru, ei harweinydd, Carwyn Jones?

Ac yn ôl Richard Wyn Jones, sy'n gallu ecseitio am unrhyw fath o wleidyddiaeth fel arfer, o'i gymharu â'r Alban a Lloegr, gwleidyddiaeth y merddwr yw gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru. Tra bod y dŵr yn y brif afon yn llifo'n gyflym, rydym ninnau'n parhau i droi yn ein hunfan.

Ond pan fo'r dŵr yn codi'n llif digon mawr a phwerus, mae'n gafael hyd yn oed yng nghynnwys y merddwr gan ei sgubo o'r neilltu. Gobaith Richard o leiaf yw y bydd hynny'n digwydd yng Nghymru.

Image caption Rhoddodd Vaughan Roderick deyrnged i Charles Kennedy, fu farw ddydd Mawrth

Am flynyddoedd, doedd Vaughan Roderick ddim yn gallu yfed chwisgi, a'r rheswm am hynny yw iddo fod yng nghwmni Charles Kennedy yn ystod cynhadledd y Rhyddfrydwyr yn Llangollen, gyda'r gwleidydd yn gweithio'n galed i'w argyhoeddi o rinweddau'r ddiod.

Mewn teyrnged iddo ar ei flog, yn ôl Vaughan, beth bynnag oedd ei ffaeleddau, ar fwy nac un achlysur fe brofodd yn feirniad llawer mwy craff na'r rhan fwyaf o'i gyd wleidyddion. Anodd heddiw yw dod o hyd i wleidydd mewn unrhyw blaid a fyddai'n anghytuno a safiad Charles yn erbyn rhyfel ag Irac a phwy all anghofio mai yntau oedd yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol o bwys i ddarogan gwae pan ffurfiwyd y glymblaid â'r Ceidwadwyr?

Image copyright catrin owen
Image caption Yr haul yn machlud yn Aberdesach, hoff le Catrin Owen

Mae Cymru Fyw ar hyn o bryd yn gwahodd darllenwyr i anfon lluniau o'u hoff lefydd i'w dangos ar y wefan, ac yn yr Herald mae Angharad Tomos yn disgrifio un o'i hoff lefydd hi - gardd Bron Wylfa, cartref ei rhieni, lle treuliodd blynyddoedd ei phlentyndod, gyda rhyddid llwyr i chwarae yno gyda'i chwiorydd.

Ond nid 'lle' yw hwn iddi hi yn yr ystyr traddodiadol. 'Adra' ydi o, medd Angharad, mae o wastad yno, ac wrth ddychwelyd i'r ardd, mae'n camu'n ôl i'w phlentyndod. Ac mae Angharad yn diolch i'w thad am ofalu am ddarn o dir am dros hanner can mlynedd, am feithrin y blodau a diwyllio'r tir, fel bod gennym gornel bach o'r ddaear sy'n berl amhrisiadwy, ac yn drysor o aroglau atgofus.