Ysbyty yn anrhydeddu Shirley Bassey

Shirley Bassey Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Cafodd y Fonesig Shirley Bassey ei hanrhydeddu gan Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae prif rodfa tu allan i'r ysbyty wedi cael ei enwi yn Shirley Bassey Way i gydnabod ei chefnogaeth i'r elusen.

Mae'r gantores yn un o brif noddwyr Apêl Arch Noa, ac fe gafodd daith o amgylch yr ysbyty cyn y seremoni.

Fe wnaeth hi hefyd gwrdd â staff a chleifion yn y rhan newydd o'r ysbyty a gafodd ei agor yn ddiweddar.

Dywedodd y Fonesig Shirley: "Rwyf bob amser wedi rhoi fy nghefnogaeth i Arch Noa a'r miloedd o blant yr ysbyty sydd yn derbyn triniaeth bob blwyddyn."

Image caption Fe agorodd ail ran o'r ysbyty ym mis Mawrth