Gwahardd cefnogwr pêl-droed am frathu heddwas

Stadiwm Liberty Image copyright Getty Images
Image caption Digwyddodd y drosedd y tu allan i Stadiwm y Liberty yn Abertawe

Mae cefnogwr pêl-droed wedi ei wahardd o wylio gemau am bedair blynedd, ar ôl brathu heddwas y tu allan i stadiwm yn ne Cymru.

Fe wnaeth cefnogwr Stoke, Michael Murray, 23, frathu braich yr heddwas ar ôl i'w dîm guro Abertawe fis diwethaf.

Clywodd llys bod gwrthdaro rhwng cefnogwyr ar ôl y fuddugoliaeth o 2-0 yn Stadiwm y Liberty.

Cafwyd Murray, o Stoke, yn euog o ymosod ar heddwas a stiward, ac o drosedd trefn gyhoeddus.

Cafodd ei wahardd rhag mynd i unrhyw gêm bêl-droed ym Mhrydain am bedair blynedd, dedfryd o garchar wedi ei ohirio, a bydd rhaid iddo wneud 150 awr o waith di-dâl.

Cafodd orchymyn i dalu £365 mewn costau a iawndal.