Ymosodiad 'erchyll' yn lladd defaid yn Sir Ddinbych

Heddlu Image copyright @NWPRuralCrime
Image caption Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu i rai wyn foddi yn ceisio dianc gan y ci

Mae ymosodiad gan gi laddodd defaid yn Sir Ddinbych wedi ei disgrifio fel un "erchyll" gan yr heddlu.

Cafodd tri o ddefaid a 21 o wyn eu lladd ger Llanelwy, a'r gred yw bod 12 o wyn eraill wedi boddi wrth geisio dianc, yn ol swyddog bywyd gwyllt Heddlu Gogledd Cymru, y Sarjant Rob Taylor.

Daw'r ymosodiad wedi marwolaeth defaid mewn digwyddiad tebyg yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Sarjant Taylor mai anifail anwes o gartrefi gerllaw all fod yn dianc o'i gartref ac yn ymosod ar y defaid.

Dywedodd ei fod yn "drosedd erchyll", gan bod cwn yn gallu gadael golygfa "arswydus" ar ol ymosodiadau o'r fath.