Torri record byd ar Radio Cymru

Shân Cothi ac Andres Evans
Image caption Shân Cothi ac Andres Evans

Mae record byd newydd wedi ei gosod ar Radio Cymru, wrth i ddeuawd gael ei chanu gan gantorion oedd 7,000 o filltiroedd ar wahan.

Mae swyddogion o Lyfr Recordiau Byd Guinness wedi cadarnhau fod record byd newydd am y pellter mwyaf rhwng dau berson sy'n canu deuawd.

Roedd y record yn rhan o weithgareddau Diwrnod Cerddoriaeth y BBC.

Cliciwch yma i glywed y perfformiad, a chliciwch yma i weld rhan o'r côr yn ymarfer cyn yr ymgais i dorri'r record byd.

Y cantorion oedd y gyflwynwraig a'r gantores Shân Cothi, oedd yn canu yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd, gydag Andres Evans, ym mhen draw'r byd yn y Gaiman ym Mhatagonia.

Roedd y ddau yn cydganu'r emyn draddodiadol Gymreig Calon Lân yn fyw gyda cherddorfa'r BBC.

Roedd y gân yn cael ei darlledu yn fyw ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae'r ymgais hefyd yn rhan o ddathliadau nodi 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa.

Image caption Y gerddorfa'n ymarfer ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd Hoddinott