Anaf i yrrwr beic modur yng Nghaerdydd

Damwain Image copyright Mathew Horwood
Image caption Bu Ffordd Parc Ninian ar gau am oriau yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae dyn wedi ei anafu wedi i feic modur daro yn erbyn wal yng Nghaerdydd nos Wener.

Roedd dau ddyn ar gefn y cerbyd Honda 350cc pan oedd yn cael ei yrru ar hyn Ffordd Parc Ninian yn y ddinas am 21:30 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd i un dyn gydag anafiadau ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty. Fe adawodd yr ail ddyn leoliad y gwrthdrawiad ond fe ddaethpwyd o hyd iddo ychydig yn ddiweddarach ac mae'n rhoi cymorth i'r heddlu gyda'u hymchwiliadau.

Bu'r ffordd ar gau am bedair awr tra roedd y gwaith o ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn mynd yn ei flaen.