Dadorchuddio hen glawdd yn Y Fflint

Clawdd

Mae darn bach o hanes Cymru wedi cael ei ddarganfod o dan weddillion bloc o fflatiau o'r 1960au yn nrhef Y Fflint.

Mae tîm o archeolegwyr wedi dadorchuddio rhan o glawdd a ffos pedwar metr o uchder gafodd ei greu, yn ôl cofnodion, yn 1277 gan dros 900 o bobl o bob cwr o Loegr.

Cafodd y clawdd ei godi i warchod y gweithwyr oedd yn adeiladu castell y Fflint, sef un o gestyll cynharaf Edward y Cyntaf yn y gogledd.

Fe ddaeth y tîm o hyd i'r clawdd wedi i'r fflatiau yng nghanol y dref gael eu dymchwel. Fe fydd canolfan iechyd newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle.

Roedd haneswyr yn credu bod y clawdd yn bodoli rhywle'n agos at y safle - ac mae map gan y gwneuthurwr mapiau enwog John Speed o 1610 yn awgrymu sut gallai fod wedi edrych.

Image caption Dr Iestyn Jones

Dywedodd Dr Iestyn Jones o gwmni Archaeology Wales: "Mae'r Fflint yn enghraifft ardderchog o dref gafodd ei hadeiladu'r un amser a'r castell.

"Ac er mwyn amddiffyn y bobl oedd wedi dod o bob cwr o Loegr, roedd angen system ddiogelu arnyn nhw i'w cadw'n ddiogel."

"Fe fu sawl ymosodiad yn ystod diwedd y drydedd ganrif ar ddeg ac yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau'r bymthegfed ganrif.

"Ond mae'n anhygoel i weld ei fod yn dal yma ac wedi ei ddiogelu o dan lawer o adeiladau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg".

Image caption Lleoliad y darganfyddiad yn Y Fflint