Tân Pen-y-bont wedi ei ddiffodd

Tân Image copyright EllisGriffiths2/Twitter

Mae diffoddwyr tân wedi gorffen eu gwaith ar safle canolfan ailgylchu Brynmenyn ym Mhen-y-bont lle'r oedd tân difrifol ddydd Gwener.

Am gyfnod, tra roedd y tân yn llosgi ar ei waethaf, bu 65 o ddiffoddwyr yn ceisio brwydro'r fflamau, ond mae'r tân bellach dan reolaeth, er bod tair injan dân yn parhau ar y safle ac yn chwistrellu dŵr ar y safle.

Roedd dros 1,000 o silindrau nwy ar y safle ac roedd rhaid i weithwyr adael adeiladau cyfagos ar y stad ddiwydianol.

Roedd Heol Millers ar gau am gyfnod ac roedd nifer o ffyrdd eraill wedi cael eu heffeithio yn lleol, ond mae'r ffyrdd i gyd ar agor erbyn hyn.

Straeon perthnasol