Dyn wedi marw a dyn ar goll wrth nofio yn Llanberis

Llanberis
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 08:30 fore dydd Sul

Mae BBC Cymru yn deall fod dyn wedi marw ac mae dyn arall ar goll ar ôl iddyn nhw nofio ger rhaeadr yn Llanberis fore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad, ger rheilffordd Trên yr Wyddfa, am 08:30.

Dywedodd Alex Goss o Heddlu Gogledd Cymru: "Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 08:30 fore heddiw ac fe fu ymateb ar y cyd rhwng gwahanol asiantaethau brys - sydd yn cynnwys uned achub tanddwr yr heddlu, Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Thîm Achub Mynydd Llanberis.

"Fe ddigwyddodd y digwyddiad mewn rhaeadr ger rheilffordd Trên yr Wyddfa, ar ôl i bedwar dyn oedd wedi mynd i nofio yn yr ardal fynd i drafferthion.

"Gallaf gadarnhau fod un dyn 33 oed wedi marw yn dilyn y digwyddiad, ac mae dyn arall 21 oed ar goll. Mae'r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio am y dyn yma.

"Cafodd dau ddyn, sydd yn 27 a 25 oed, eu cludo i'r ysbyty ond maen nhw wedi eu rhyddhau erbyn hyn."

Image caption Y gwasanaethau brys ger lleoliad y digwyddiad
Image caption Mae'r digwyddiad ger ardal y rhaeadr yn y pentref