Marwolaethau Llanberis: Cyhoeddi enwau

Llanberis
Image caption Y gwasanaethau brys ger lleoliad y digwyddiad ddydd Sul

Mae Crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi agor ymchwiliad i farwolaethau dau ddyn fu farw mewn ceunant ger Llanberis ddydd Sul.

Roedd Alexander Hadley yn 21 oed ac o Ddinorwig ac roedd Steffan Roberts Vernon yn 33 oed ac o Gaernarfon. Fe fydd cwest i'w marwolaethau yn agor yn ddiweddarach.

Cafwyd hyd i gyrff ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion wrth nofio ger rhaeadr yn y pentref.

Fe gafodd dau ddyn arall, 27 a 25 oed, eu cludo i'r ysbyty cyn cael eu rhyddhau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i ymchwilio i gefndir y digwyddiad.

Image caption Y rhaeadr lle bu'r dynion yn nofio

Straeon perthnasol