Gwlad Belg yn trechu Ffrainc cyn wynebu Cymru nos Wener

Gwlad Belg Image copyright AP
Image caption Gwlad Belg yn dathlu gôl arall - perfformiad i godi ofn ar gefnogwyr Cymru

Roedd rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn Stade de France i wylio Gwlad Belg yn curo Ffrainc o 4-3 nos Sul - ac roedd perfformiad yr ymwelwyr yn un i godi ofn ar gefnogwyr Cymru.

Dyma oedd paratoad Gwlad Belg ar gyfer y gêm holl bwysig yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 yn erbyn Cymru nos Wener. Ac am baratoad.

Prin y mae Ffrainc yn colli ym Mharis. Ers 2012, yr unig dimau i ennill yn Stade de France yw Brasil, Sbaen a'r Almaen - pob un ohonyn nhw'n bencampwyr y byd.

Felly er mai gêm gyfeillgar oedd hi nos Sul, roedd buddugoliaeth Gwlad Belg yn arwyddocaol.

Roedd y sgôr terfynol braidd yn garedig i'r Ffrancwyr, oedd yn colli 4-1 nes y munudau olaf.

Ar un adeg, roedd Gwlad Belg ar y blaen o 3-0 diolch i ddwy gôl gan chwaraewr canol cae Manchester United, Marouane Fellaini, ac un gan Radja Nainggolan.

Nodiadau manwl

Byddai Coleman a'i is-hyfforddwr, Osian Roberts, wedi bod yn cymryd nodiadau manwl yn y dorf ym Mharis, ac un wers amlwg i ddysgu o berfformiad Ffrainc yw peidio rhoi cymaint o le i Fellaini yn y cwrt cosbi.

Mae'n annhebygol bydd Cymru'n methu a'i weld - mae'r gŵr 27 oed yn chwe throedfedd a phedwar modfedd, ac mae ei wallt yn edrych fel ei fod wedi'i fenthyg gan gerddor funk o'r 70au.

Ond mae Fellaini yn chwaraewr sydd yn gelfydd yn creu gwagle i'w hun, ac fel dangosodd yn erbyn Ffrainc, mae ganddo'r ddawn werthfawr o sgorio.

Er bod bygythiad corfforol Gwlad Belg yn amlwg, roedd y gêm ym Mharis yn dangos bod y bygythiad yna dal yn anodd ei atal.

Image copyright AFP
Image caption Fe sgoriodd Marouane Fellaini ddwywaith yn erbyn y Ffrancwyr

Perygl Hazard

Perygl amlwg arall yw Eden Hazard, dewin canol cae Chelsea.

Gan fod amddiffynwr Manchester City Vincent Kompany wedi'i wahardd ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru, Hazard fydd capten Gwlad Belg ac fe yw'r chwaraewr mwyaf dylanwadol.

Fel y mae bob wythnos i Chelsea, roedd Hazard yn greadigol, yn rhedeg yn dwyllodrus ac yn beryglus pob tro iddo gyffwrdd y bêl yn erbyn y Ffrancwyr.

Mae gan Gwlad Belg ddigonedd o sêr ar y fainc hefyd - gydag ymosodwr Everton Romelu Lukaku ac asgellwr Tottenham Nacer Chadli yn eu plith.

Ond roedd Coleman yn ymwybodol o hyn cyn eu gwylio nhw yn Ffrainc.

Image copyright AFP
Image caption Ffrancwr Arsenal, Olivier Giroud, yn ceisio cadw'r bêl rhag Nicolas Lombaerts

Gwendidau amddiffynnol

Rhywbeth a fyddai wedi codi calon rheolwr Cymru oedd gwendidau amddiffynnol Gwlad Belg, yn enwedig ar yr esgyll.

Amddiffynnwr canol yw Jan Vertonghen, ond mae'r chwaraewr Tottenham yn cynrychioli ei wlad fel cefnwr chwith.

Pan fo' asgellwyr yn rhedeg ato, mae Vertonghen yn gallu edrych ychydig yn fregus - a bydd ei berfformiad ansicr yn erbyn Ffrainc wedi plesio Gareth Bale.

Roedd Bale arfer chwarae gyda Vertonghen i Spurs, felly bydd seren Cymru'n ymwybodol o sut i ymosod yr amddiffynnwr.

Ac wrth ystyried perfformiadau Vertonghen a'r cefnwr dde, Toby Alderweireld, yn erbyn Ffrainc, mae 'na ddigon i fod yn bositif amdano o safbwynt Cymru.

Cadarnhad o gryfder Gwlad Belg oedd eu buddugoliaeth swmpus yn erbyn Ffrainc - byddai Coleman wedi disgwyl perfformiad cryf o wrthwynebwyr nesaf Cymru, sydd erbyn hyn yn ail yn rhestr detholion y byd.

Ond roedd natur y fuddugoliaeth yn rheswm i Gymru boeni. Ar sail y perfformiad yma ym Mharis, bydd Gwlad Belg yn beryglus iawn yng Nghaerdydd nos Wener.

Gallwch ddilyn cyffro Cymru yn wynebu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener ar lif byw arbennig Cymru Fyw, yn ogystal â Camp Lawn ar BBC Radio Cymru.