Gobaith o hwb digidol gwerth £1.5bn i economi Cymru

Technoleg
Image caption Dywedodd Syr Terry Matthews bod "cyfleoedd chwyldroadol" yn y diwydiant technoleg

Mae Cymru yn "perfformio'n well na fyddai llawer yn disgwyl" yn y diwydiant technoleg digidol, yn ôl Gweinidog yr Economi Edwina Hart.

Yn siarad wrth i Gasnewydd gynnal cynhadledd ar dechnoleg digidol, dywedodd ei bod yn gobeithio y gallai'r sector, sy'n cyflogi 24,000 o bobl yng Nghymru, ychwanegu £1.5bn i economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Mae technoleg allai gael ei wisgo a diogelwch wrth ddefnyddio technoleg ymysg rhai o'r pynciau fydd yn cael eu trafod yng nghynhadledd Digidol 2015, gyda Google a Microsoft yn mynychu.

Dywedodd arbenigwr yn y maes, Syr Terry Matthews, nad oedd "cyfleoedd chwyldroadol" fel yma ar gyfer busnesau wedi bodoli o'r blaen.

"Bydd Digidol 2015 yn arddangos y cyfleoedd sydd ar gael a dod a miloedd o bobl sydd â diddordeb yn y maes at ei gilydd," meddai'r dyn busnes, sy'n berchen ar y Celtic Manor, fydd yn croesawu dros 2,000 i'r gynhadledd ddydd Llun.

Bydd gwneuthurwyr traddodiadol fel Airbus yn cael eu cynrychioli ochr yn ochr â chrewyr gemau fel Ian Livingstone, oedd yn gyfrifol am greu cyfres Tomb Raider.

Image copyright Square Enix
Image caption Mae gemau fel Tomb Raider yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf