Tân Pen-y-bont wedi ei gynnau'n ddamweiniol

Tân Pen-y-bont
Image caption Roedd y gwasanaeth tân yn parhau i chwistrellu dŵr ar y safle ddydd Sadwrn

Mae ymchwiliad i achos tân ar safle canolfan ailgylchu ym Mhen-y-bont wedi dod i'r canlyniad bod y tân wedi ei gynnau'n ddamweiniol.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei alw i Stad Ddiwydiannol Brynmenyn am 09:00 fore Gwener, a bu'r tân yn llosgi am dros 24 awr.

Fe wnaeth y gwasanaeth tân ddychwelyd i'r safle unwaith eto am 07:30 fore Llun oherwydd bod rhan yn mudlosgi.

Am gyfnod, tra roedd y tân yn llosgi ar ei waethaf, bu 65 o ddiffoddwyr yn brwydro yn erbyn y fflamau. Bu'r gwasanaeth tân yn parhau i chwistrellu dŵr ar y silindrau nwy ar y safle trwy'r nos.

Straeon perthnasol