Dau arweinydd yn cael un cyfle

Andrew RT Davies
Image caption Andrew RT Davies - sefyll ar y rhestr ranbarthol

Mae arweinwyr y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Andrew RT Davies wedi dweud na fydd o'n ymgeisio am sedd Bro Morgannwg yn etholiadau'r cynulliad yn 2016.

Yn etholiad 2010 cafodd Mr Davies ei ethol i gynrychioli Canol De Cymru ar y rhestr ranbarthol.

Daw ei sylwadau ar ôl i Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, gyhoeddi'r wythnos diwethaf y byddai'n sefyll ar gyfer y rhestr ranbarthol (Canol De Cymru) yn ogystal ag etholaeth Rhondda.

Dywedodd Mr Davies: "Rwyf yn hapus i sefyll ar gyfer y rhestr ranbarthol. Fe ddywedais hynny 12 mis yn ôl.

"Rwyf ddim yn edrych i gael opsiwn parachute neu ail opsiwn er mwyn cael fy ethol."

Ddydd Mawrth hefyd fe gyhoeddodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, y byddai hi ond yn ymgeisio am sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2016.

Dywedodd na fyddai'n rhoi ei henw ar gyfer y rhestr ranbarthol.

Yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai fe wnaeth y Ceidwadwyr gipio sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Straeon perthnasol