Cyhoeddi enw dynes a fu farw mewn damwain ffordd

Lydia Marie Lewis Image copyright other
Image caption Lydia Marie Lewis

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau enw'r ddynes a fu farw mewn damwain ffordd ar yr A483 yn Llananno, rhwng Llanbadarn Fynydd a Llandrindod.

Bu farw Lydia Marie Lewis, 19 oed o Lanbadarn Fynydd, Powys yn y ddamwain ddigwyddodd tua 22:00 dydd Mercher diwethaf.

Fe wnaeth ei char daro yn erbyn coeden ar ôl gadael y ffordd.

Dywed yr heddlu eu bo dyn parhau i ymchwilio i achos y ddamwain .

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.