Corff Talysarn: Cyhoeddi enw dyn gafodd ei ddarganfod

Talysarn
Image caption Cafodd y corff ei ddarganfod yn ardal Bro Silyn, Talysarn

Mae'r awdurdodau wedi cadarnhau enw dyn gafodd ei ddarganfod yn farw mewn twll draen yn Nhalysarn yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.

Roedd Adrian Arthur Carpenter yn 25 ac o Nantlle.

Mae crwner gogledd orllewin Cymru wedi dechrau ymchwiliad.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff y dyn am tua 08:00 yn ardal Bro Silyn o Dalysarn, ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd y farwolaeth yn amheus ac mai "digwyddiad trasig" oedd o.

Straeon perthnasol