'Ydw i'n dad da?'

Y teulu Stead Image copyright Stead
Image caption Phil Stead a'i deulu: "Pan roedd yr hogiau yn un, tair a phump oed... roedd bob nos yn frwydr. Llanast, crio, cwffio, dadlau a sgrechian..."

Beth mae bod yn dad yn ei olygu? Phil Stead, awdur, colofnydd pêl-droed a seiclwr o Gaerdydd sydd bellach yn gweithio i gwmni teledu yn y gogledd, sy'n agor ei galon ac yn dweud pam iddo ddechrau deall pam fod ei dad ei hun wedi bod yn absennol o'i blentyndod:

Fel rhywun a gafodd ei fagu heb dad, doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd y swydd-ddisgrifiad. Ond y munud glywais i fod Mair yn disgwyl babi yn 2000, roedd yn uchelgais i mi i fod y tad gorau posib.

Roedd yn benderfyniad hawdd i mi adael fy swydd yn teithio Prydain gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Image copyright Phil stead
Image caption Phil Stead: "wnaeth neb ddweud pa mor galed base fo"

Penderfynodd Mair a finnau newid iaith ein perthynas o Saesneg i Gymraeg a symud i'r gogledd i gael magu ein plant yn y fro Gymraeg. Ac roedd yn gwneud mwy o synnwyr i mi aros adref i fagu'r plentyn cyntaf tra fod Mair yn mynd nôl i'w gyrfa.

Roeddwn yn edrych ymlaen i fod yn "dad tŷ". Baswn i'n taflu fy hun i fewn i'r rôl. Baswn yn tacluso, coginio, mynd am dro gyda'r pram, ac yn mynd i ddosbarthiadau babis gyda rhieni eraill.

Dychmygwn ddiwrnodau braf a hwyliog gyda'r babi yn gwenu ac yn chwerthin trwy'r dydd. Byddwn yn disgwyl mewn tŷ taclus a glân gyda sws a bwyd ar y bwrdd i fy ngwraig annwyl ar ôl iddi gyrraedd adref o ddiwrnod prysur yn ei gwaith.

Wel dyna beth oedd y bwriad.

Roeddwn i'n dad uffernol. Wnes i drio, do. Ond Mam Bach, wnaeth neb ddweud pa mor galed base fo.

Roedd yn amhosib deall beth oedd Gruff bach eisiau. Roedd ei sgiliau cyfathrebu yn wan iawn. Roedd bywyd yn gylch o grio, bwyta, crio, cysgu, cachu, crio, bwyta. A dim ond fi oedd hwnna.

Roeddwn i'n methu disgwyl medru ei drosglwyddo nôl i Mair am bump o'r gloch bob nos.

Mewn llai na blwyddyn roeddwn yn ôl mewn swyddfa, fy syniad o fywyd domestig perffaith wedi chwalu.

Roeddwn i wedi ymlacio ychydig erbyn i Ifan ein cyrraedd ddwy flynedd yn ddiweddarach. A roedden ni'n symud mewn i'n tŷ newydd yn y gogledd ar y diwrnod pan gafodd fy nhrydydd mab, Owain, ei eni yn 2004.

Dydw i dal ddim yn ei ffeindio'n hawdd i fod yn dad. Ond roedd yn fwy caled byth pan roedd yr hogiau yn un, tair a phump oed. Roedd bob nos yn frwydr. Llanast, crio, cwffio, dadlau a sgrechian.

Mae'n rhaid i fi gyfaddef, mi oedd 'na adegau pan oeddwn yn cyrraedd adref, sbio trwy'r ffenest a phenderfynu'n wangalon i aros yn y car am ychydig i adeiladu fy nghryfder i wynebu yr awr olaf uffernol 'na cyn gwely.

'Hunanol'

Roeddwn yn teimlo fod rhywbeth yn bod gyda fi, oherwydd doeddwn i ddim yn mwynhau'r profiad diwrnod-i-ddiwrnod o fod yn dad. Roedd fy mhrofiad go iawn i yn mynd yn erbyn disgwyliadau gweddill y byd a'r portreadau o dadau perffaith yn ffilmiau Hollywood. Roeddwn i'n edrych yn y drych ac yn gweld fy nhad hunanol, absennol, fy hun.

Mae dynion yn hunanol wrth natur. Rydyn ni'n egotistiaid. Ac wrth fod yn dad fy hun roeddwn i'n dechrau sylweddoli pam wnaeth fy nhad fy hun, a pam mae tadau eraill, yn rhedeg i ffwrdd i osgoi eu cyfrifoldebau.

I fod yn dad mae'n rhaid treulio blynyddoedd o dy fywyd mewn gwasanaeth i dy blant. Roeddwn i'n barod ac yn benderfynol o wneud hyn, ond doedd e ddim yn dod yn naturiol o gwbl.

Dechreuodd pethau wella dros y blynyddoedd. Wnes i ddathlu y diwrnod pan welon ni'r clwt olaf a wedyn pan roedd pawb yn gallu bwydo eu hunain.

Image copyright PhilStead
Image caption Phil a'i feibion yn gêm Cymru v Gwlad Belg

Mae fy mhlant yn hoffus iawn, ac yn garedig. Rydw i'n falch iawn o'u clywed yn cael eu canmol yn aml am eu personoliaethau. Mae hynny'n fwy pwysig i mi nac unrhyw sgil academaidd neu chwaraeon.

Ond er hynny, rydw i'n colli fy nhymer yn rhy aml. Fedrai ddim dioddef gweld creulondeb rhwng y brodyr, hyd yn oed pan mae nhw'n mynnu mai dim ond banter yw e iddyn nhw.

Rydw i'n meddwl baswn i'n dad hollol wahanol ac yn fwy meddal tase gen i hogan fach.

Ond tri hogyn sydd gen i, a dwi'n meddwl fy mod i'n disgwyl iddyn nhw fod yn ddynion yn rhy gynnar.

'Perthynas yn cryfhau'

Buaswn i'n talu llawer iawn o arian am fwy o amynedd a dealltwriaeth. Rydw i'n gwybod o brofiad fod hanner awr o gicio pêl gyda nhw yn dod a mwy o bleser pur nac unrhyw ddarn o dechnoleg neu degan drud.

Falle mod i'n bod yn rhy galed ar fy hun. Rydw i wedi treulio oriau, dyddiau, wythnosau ar ochr cae pêl-droed neu yn eistedd mewn car yn disgwyl iddyn nhw orffen ymarfer ar noson dywyll ym Methesda.

Rydyn ni'n hapus iawn fel teulu, yn cynnig bywyd cartrefol sefydlog iddynt. Mae 'na lawer o chwerthin, ac wrth i'r hogiau gyrraedd eu harddegau, rydw i'n meddwl fod ein perthynas ni'n cryfhau bob blwyddyn. Yn lle poeni am ein plant swnllyd yn dadlau ac yn sbwylio ein amser mewn bwyty, byddaf yn dewis cael eu cwmni nhw bob un tro erbyn hyn.

Fel llawer iawn o ddynion, byddaf yn ei ffeindio'n llawer haws i gyfathrebu'n emosiynol dros beint neu ddau. Ac mae hynny'n wir efo fy hogiau fy hun hefyd. Dwi'n edrych ymlaen i rannu peint gyda nhw mewn amser.

'Rhywbeth ysbrydol'

Wrth edrych yn ôl, mae amseroedd wedi bod pan oedd bod yn dad yn rhywbeth mwy, rhywbeth ysbrydol.

'Nai byth anghofio codi Gruff oddi ar gae pêl-droed yn crio mewn poen, a'i gario yn fy mreichiau i'r ysbyty. Baswn i wedi gallu ei gario am byth.

A pan weles i silff wydr yn cwympo o gwmpas Ifan bach ar ein gwyliau yn Tenerife, roeddwn i mewn sioc go iawn am ddyddiau. Dyna pan wnes i sylwi faint oedd yn ei feddwl i mi go iawn.

Mae Owain, sef y babi o'r tri yn dal i gysgu yn fy mreichiau weithiau, ac erbyn hyn rydw i'n gwerthfawrogi bob un o'r munudau amhrisiadwy distaw yna. Rydw i'n deall faint o golled bydd ar ei ôl pan fydd yn rhy hen i fod eisiau gwneud.

Ydw i'n dad da erbyn hyn? Baswn i'n licio bod yn well, ond dydw i ddim y person gorau i feirniadu. Bydd rhaid i chi ofyn i fy hogiau am hynny, ond dwi'n gaddo mod i'n trio fy ngorau glas.

Hefyd ar y BBC