Damwain A483: Cyhoeddi enw merch 19 oed

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw merch fu farw mewn damwain ar yr A483 yn Llananno ger Llandrindod nos Fercher, 3 Mehefin.

Bu farw Lydia Marie Lewis, 19 oed o Lanbadarn Fynydd ym Mhowys.

Roedd y ddamwain yn ymwneud ag un car ac mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r achos.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.