Cŵl Cymru: Y 90au mewn lluniau

Sara Ogwen Williams yn gwisgo'r ffrog oedd yn symboleiddio cŵl Cymru
Image caption Sara Ogwen Williams yn gwisgo'r ffrog oedd yn symbol o Cŵl Cymru

Roedd un o raglenni eiconig y 90au yn ôl ar y sgrin nos Wener 12 Mehefin. Roedd TFI Friday (Channel 4) yn sicr o ddod ag atgofion yn ôl, a llawer o atgofion i nifer o Gymry am ddegawd arwyddocaol.

Hon oedd y ddegawd daeth Cymru o'r cysgodion a chamu i flaen y llwyfan rhyngwladol gyda hyder newydd yn wleidyddol a diwylliannol.

Dyma ddegawd Cŵl Cymru, a dyma ambell i lun i'ch atgoffa o'r cyfnod.

Image caption Scott Gibbs yn dryllio gobeithion Lloegr o ennill y Gamp Lawn yn 1999. Enillodd Cymru 32-31 yn Wembley
Image caption Roedd hi'n amser "malu cacan siocled" yn 1996 wrth i Jonsi ddod yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru
Image caption Catatonia: 1999. Lle mae dy het di Cerys?
Image caption Amser mynd â'r ci am dro!
Image copyright S4C
Image caption Oeddech chi'n codi'n gynnar i wylio Slot Sadwrn ar S4C gyda Daniel Glyn a Gaynor Davies? Ai chi yw un o'r plant yn y llun?
Image caption Pan drodd Ioan Gruffudd ei fflachlamp ymlaen, fe wnaeth e sylweddoli ei fod wedi hen adael Cwmderi ac wedi dod i amlygrwydd byd-eang yn y ffilm 'Titanic' (1997)
Image caption Cofio rhain? Siopau recordiau oedden nhw'n arfer eu galw nhw. Roedden nhw'n boblogaidd iawn am flynyddoedd...
Image caption "Pa fotwm 'dy ni'n ei bwyso i gael S4C?" Roedd cyfrifiaduron mewn ysgolion yn dechrau dod yn olygfa gyfarwydd
Image caption Ie dros Gymru. O drwch blewyn pledleisiodd y mwyafrif dros sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1997
Image caption 'Twin Town' gyda Rhys a Llŷr Ifans
Image caption Roedd 'na sŵn gwahanol i'r boreau ar Radio Cymru
Image caption Peidiwch â chynhyrfu! Oedd ganddoch chi 'shell suit' liwgar?
Image caption Oedd ganddoch chi Gameboy yn y 90au?
Image caption Roedd Gorky's Zygotic Mynci'n boblogaidd iawn yn Siapan... a Lerpwl
Image caption Roedd teithwyr yn clywed yr ebychiad "Dwi ar y trên!" yn aml yn y 90au
Image caption Pwy yw'r teulu newydd 'ma yng Nghwmderi?
Image caption Mi 'naeth y CD ddisodli'r casét yn y 90au. 'Dych chi'n cofio'r bechgyn yma? Ble maen nhw nawr tybed?