Fellaini i fethu gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg

Marouane Fellaini Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Fellaini ddwywaith yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym Mharis nos Sul

Ni fydd chwaraewr canol-cae Gwlad Belg Marouane Fellaini yn ymddangos yn y gêm holl bwysig yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd nos Wener.

Roedd adroddiadau ddydd Mawrth nad oedd y chwaraewr Manchester United wedi ymarfer gyda gweddill y tîm oherwydd anaf i'w goes, ac fe wnaeth hyfforddwr Gwlad Belg Marc Wilmots gadarnhau ar Twitter ddydd Mercher y bydd yn methu'r gêm.

Fe sgoriodd Fellaini, 27 oed, ddwywaith yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym Mharis nos Sul.

Ni fydd capten arferol Gwlad Belg Vincent Kompany yn ymddangos nos Wener chwaith oherwydd gwaharddiad.

Mae pryder hefyd am ffitrwydd y chwaraewr oedd disgwyl i gymryd lle Kompany, Jason Denayer, oherwydd iddo adael eu sesiwn hyfforddi yn gynnar.