Bachgen yn y llys am gynnau tân bwriadol ym Mlaenau

Llys Ieuenctid Dolgellau
Image caption Fe wnaeth y bachgen gyfaddef i ddau gyhuddiad o losgi bwriadol yn Llys Ieuenctid Dolgellau

Mae llys wedi clywed bod bachgen 12 oed wedi dechrau tân bwriadol yng Ngwynedd, ddyddiau ar ôl achosi gwerth £2,000 o ddifrod drwy losgi sied.

Fe wnaeth y bachgen, all ddim ei enwi, gynnau'r tân eithin ar Fferm Cwm Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog ar 22 Ebrill - wrth i nifer o danau gwair gael eu cynnau dros Gymru.

Fe wnaeth y bachgen gyfaddef i ddau gyhuddiad o losgi bwriadol yn Llys Ieuenctid Dolgellau ddydd Iau.

Cafodd y bachgen orchymyn atgyfeiriad o 10 mis a bydd rhaid i'w rieni dalu £2,284 o iawndal.

Dywedodd Richard Williams ar ran yr amddiffyniad: "Nid ydw i'n bychanu'r hyn ddigwyddodd, ond wnaeth fy nghleient na'i rieni erioed feddwl y byddai'n cyrraedd achos troseddol."