Rhybudd stormydd a glaw i Gymru ddydd Gwener

Rhybudd tywydd Image copyright Y Swyddfa Dywydd
Image caption Mae rhybudd y gallai'r tywydd achosi amhariad mewn rhai ardaloedd oherwydd llifogydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd stormydd difrifol a glaw trwm yn effeithio ar rannau mawr o Gymru.

Mae rhybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" mewn grym o 01:00 ddydd Gwener i 09:00 ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod stormydd yn y canolbarth a'r de yn debygol o gael eu dilyn gan law trwm, fydd yn gweithio ei ffordd i fyny i Wynedd.

Mae rhybudd y gallai'r tywydd achosi amhariad mewn rhai ardaloedd oherwydd llifogydd, gyda mellt a chenllysg yn taro'r de yn ogystal.