Ymestyn cyfnod gofal teuluoedd maeth i 21 oed

Gofal Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r trefniadau'n cael eu cyflwyno fel rhan o ddiwygio ar y gwasanaethau cymdeithasol

Bydd pobl ifanc mewn gofal maeth yn gallu aros gyda'u teulu maeth nes iddynt gyrraedd 21 oed fel rhan o gynllun newydd 'Pan Fydda i'n Barod' sy'n cael ei gyflwyno ar draws Cymru

Dyna sydd mewn cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford ddydd Gwener.

Fe fydd y trefniadau 'Pan Fydda i'n Barod' newydd yn golygu y gall pobl ifanc barhau i fyw gyda'u gofalwyr maeth a'u magu mewn amgylchedd teuluol wedi iddyn nhw droi'n 18 oed, hyd nes eu bod yn 21 neu'n 25 oed, os ydyn nhw'n cwblhau rhaglen addysg neu hyfforddiant.

Yn ôl y gweinidog, fe fydd y trefniadau newydd yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw newidiadau sydyn yn digwydd i drefniadau byw'r bobl ifanc - newidiadau all gael effaith negyddol ar eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth neu o ran datblygu eu sgiliau i fyw'n annibynnol.

Mae'r trefniadau'n cael eu cyflwyno fel rhan o ddiwygio ar y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ym mis Ebrill 2016, pan ddaw Deddf Gwasanaethau a Llesiant (Cymru) 2014 i rym.

O dan y ddeddf, bydd gan awdurdodau lleol ddyletswyddau newydd tuag at bobl ifanc mewn gofal maeth sy'n dymuno parhau i fyw gyda'u rhieni maeth ar ôl iddyn nhw gyrraedd 18 oed.

Newidiadau

O dan y newidiadau hyn, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol:

  • Sicrhau, wrth gynnal asesiadau a llunio cynlluniau llwybrau gofal i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a yw'r person ifanc a'i ofalwyr maeth am ymuno â threfniant 'Pan Fydda i'n Barod';
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth arall i hwyluso'r trefniadau ymuno i'r person ifanc a'r gofalwyr maeth, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn fodlon nad yw hyn yn anghyson â lles y person ifanc.

Dywedodd Mark Drakeford: "Bydd trefniadau newydd 'Pan Fydda i'n Barod' yn rhoi sefydlogrwydd a dilyniant i bobl ifanc sy'n gadael gofal maeth wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer byw'n annibynnol.

"Bydd yn golygu y cânt sicrwydd, diogelwch a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol, drwy ganiatáu iddyn nhw barhau i fyw mewn amgylchedd teuluol cefnogol.

"Bydd hyn yn helpu i roi gwell cyfleoedd oes i blant sy'n derbyn gofal, ac yn rhoi mwy o ddewis a mwy o reolaeth ar eu bywyd."

Lwfans gofalwyr

Mae pob plentyn sydd bron â bod yn 18 oed sy'n derbyn gofal maeth gan awdurdod lleol yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer y cynllun 'Pan Fydda i'n Barod'.

Bydd gofalwyr 'Pan Fydda i'n Barod' yn derbyn lwfans i dalu am yr holl gostau rhesymol sy'n ymwneud â chefnogi'r person ifanc i fyw gyda'i deulu.

Bydd awdurdodau lleol yn pennu eu cyfraddau eu hunain ar gyfer y lwfansau - fel yn achos lwfansau maethu - yn unol â'r canllawiau newydd.

Disgwylir i awdurdodau lleol sefydlu eu cynlluniau 'Pan Fydda i'n Barod' yn ystod 2015-16, yn barod ar gyfer pan ddaw'r dyletswyddau i rym ym mis Ebrill 2016.

Straeon perthnasol