Cymru: Y noson fawr wedi cyrraedd

bale Image copyright Getty Images
Image caption Does dim amheuaeth pwy yw prif seren Cymru - Bale yn dathlu sgorio yn Andorra

Fyddai colli ddim yn ddiwedd y byd. Fe fyddai gêm gyfartal yn dderbyniol iawn.

Ond os fydd tîm pêl-droed Cymru yn llwyddo i guro Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener, fe fydd tîm Chris Coleman yn ffefrynnau i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016.

Dyna'r her felly. Mae Gwlad Belg a Chymru yn gyfartal ar bwyntiau ar frig Grŵp B ar hyn o bryd. Fe fydd y ddau uchaf ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol ym mis Hydref yn sicr o'u lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Gyda Chymru yn croesawu Israel ac Andorra i Gaerdydd cyn diwedd y rowndiau rhagbrofol (ar ôl curo'r ddau oddi cartref) fe fyddai triphwynt nos Wener yn rhoi'r gobaith gorau i gymhwyso ers 1958 pan aeth Cymru i Gwpan y Byd yn Sweden.

Maen nhw hefyd angen teithio i Bosnia a Chyprus rhwng nawr a diwedd y rowndiau rhagbrofol, ond fe fyddai'n hawdd cyflwyno dadl bod Cymru yn ffefrynnau i ennill y pedair gêm - yn enwedig os fyddai'r momentwm yn cael ei gynnal gyda buddugoliaeth yn erbyn y Belgiaid.

Sêr Gwlad Belg

Yr un broblem yw mai Gwlad Belg yw'r ail dîm gorau yn y byd yn ôl rhestr detholion ddiweddara' FIFA. Mae'r tîm yn llawn sêr hyd yn oed o ystyried anafiadau a gwaharddiadau.

Fydd y capten Vincent Kompany ddim yno ar ôl gweld cerdyn coch yn y gêm ddiwethaf, na Marouane Fellaini chwaith oherwydd anaf.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Iwan Griffiths sy'n edrych ymlaen at y gêm ar ran Newyddion 9

Ond fe fydd Eden Hazard, Romelu Lukaku, Thibaut Courtois, Axel Witsel a nifer o chwaraewyr eraill sydd wedi serennu ym mhrif gynghreiriau Ewrop dros y tymor diwethaf i gyd ar gael ac mae Chris Coleman yn gwybod bod noson anodd o'i flaen.

"Dwi mor gyffrous ag y bues i erioed fel chwaraewr neu reolwr," meddai. "Ond dwi dan bwysau mawr hefyd.

"Rwyf wedi synhwyro o'r dechrau bod gennym ni rhywbeth arbennig iawn ar y cae, a cyn belled ein bod ni'n cael ychydig o lwc o safbwynt anafiadau a gwaharddiadau, yna ro'n i'n teimlo ein bod ni'n gallu cyflawni rhywbeth yn y gystadleuaeth yma."

Ysbryd anghygoel

Mae sawl un o'r chwaraewyr hefyd wedi siarad am yr ysbryd anhygoel sydd yn y garfan ar hyn o bryd.

Mae sêr y Belgiaid wedi cael digon o sylw, ond dyn byrbwyll fyddai'n anwybyddu Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac eraill sydd wedi dangos yn y rowndiau rhagbrofol eu bod yn gallu cystadlu gyda'r gorau.

Bydd gan Coleman un llygad ar un o'r gemau eraill yn y grŵp nos Wener wrth i Bosnia groesawu Israel.

Bosnia oedd y prif ddetholion yn y grŵp er iddyn nhw gael dechrau siomedig. Byddai gêm gyfartal rhyngddyn nhw ag Israel yn hwb ychwanegol i Gymru.

Oes, mae gan Gymru anafiadau, ac fe fyddan nhw'n colli presenoldeb a phrofiad pobl fel James Collins a Ben Davies.

Ond mae'r garfan yma eisoes wedi dangos dro ar ôl tro bod chwaraewyr o glybiau 'llai ffasiynol' yn gallu camu i'r adwy ar y lefel uchaf.

Y lefel uchaf yn Ewrop fydd y rowndiau terfynol yn Ffrainc yr haf nesaf. Ennill yn erbyn Gwlad Belg nos Wener, ac fe all cefnogwyr Cymru o leia' talu ernes ar docyn i groesi'r Sianel.

Gallwch ddilyn cyffro Cymru yn wynebu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener ar lif byw arbennig Cymru Fyw, yn ogystal â Camp Lawn ar BBC Radio Cymru.

Straeon perthnasol