Beiciwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad

Heddlu

Mae beiciwr oedd mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A863 ger yr Orsedd yn Sir Wrecsam ddydd Iau wedi marw.

Bu Alan Cronin, 60, o Guilden Sutton ger Caer mewn gwrthdrawiad â char ger cyffordd 7 i gyfeiriad y gogledd am 14:23.

Mae dyn 22 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a methu ag aros ac adrodd fod gwrthdrawiad wedi digwydd.

Mae'r dyn yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Wrecsam.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Darren Wareing o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd yn lygad-dyst i'r gwrthdrawiad neu oedd wedi gweld y beiciwr neu fan wen yn ardal y digwyddiad ar y pryd i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod S084345."