Cyn ficer 59 oed o Wrecsam yn y llys

Llys y Goron Yr Wyddgrug
Image caption Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae cyn ficer wedi ei gyhuddo o feddu ar luniau anweddus o blant.

Roedd Jason Kennet-Orpwood, 59 oed o Wrecsam, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Awgrymodd yr amddiffyniad y byddai'r diffynnydd yn pledio'n euog,

Roedd yn Ficer Bistre, Bwcle, cyn ymddiswyddo yn 1999.

Dyw dyddiad achos llawn heb ei benderfynu eto a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.