A40 yn Sir Benfro wedi ailagor ar ôl damwain

A40 Image copyright Arall
Image caption Roedd yr A40 ar gau am gyfnod

Mae'r A40 ger Hwlffordd yn Sir Benfro wedi ailagor ar ôl damwain ddifrifol.

Roedd ar gau i'r ddau gyfeiriad amser cinio rhwng Cylchfan Scotchwell yn Hwlffordd a Chylchfan Pont Caneston yn Llanhuadain.

Y rheswm oedd damwain rhwng pedwar cerbyd a beic modur.

Roedd y ffordd ar gau am ryw dair awr ac adroddiadau bod ambiwlans awyr wedi mynd ag unigolyn i'r ysbyty.