Marwolaeth seiclwr: Cyhuddo gyrrwr 22 oed

Alan Cronin Image copyright Cronin family | north wales police
Image caption Mae teulu Alan Cronin wedi ei ddisgrifio fel "tad, gŵr a ffrind arbennig"

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth seiclwr ger Wrecsam, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Daethpwyd o hyd i Alan Cronin, 60 oed, o Guilden Sutton, ger Caer, gydag anafiadau difrifol ger Yr Orsedd, ar ffordd yr A483, ffordd osgoi Wrecsam, ddydd Iau.

Mae'r dyn 22 oed, sy'n wreiddiol o Wlad Pwyl, Damian Niepieklo, wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac o fethu â stopio a rhoi gwybod i'r gwasanaethau brys am y ddamwain.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys yr Ynadon ddydd Llun.

Image caption Bu farw Alan Cronin yn dilyn gwrthdrawiad ger Yr Orsedd, Wrecsam, ddydd Iau