Dechrau cystadleuaeth Canwr y Byd

BBC Cardiff Singer of the Year
Image caption Bydd 20 o gantorion yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth

Fe fydd cystadleuaeth BBC Canwr y Byd yn dechrau yng Nghaerdydd ddydd Sul - gyda 20 o gantorion o bob rhan o'r byd yn mentro i'r rownd derfynol yn y brifddinas.

Mae Canwr y Byd yn gystadleuaeth sy'n cael ei hadnabod yng nghylchoedd cerddoriaeth glasurol fel ffenestr siop i gantorion opera a chyngerdd ar ddechrau eu gyrfa. Mae wedi bod yn sbardun i gantorion sydd wedi datblygu i fod yn fyd-enwog megis Bryn Terfel, Karita Mattila, Dmitri Hvorostovsky, Anja Harteros a Jamie Barton.

Fe fydd y gystadleuaeth yn mynd ymlaen drwy gydol yr wythnos.

Bydd y soprano 29 oed o Abertawe, Celine Forrest yn cystadlu yn erbyn cantorion o Belarus, America, De Korea a gwledydd eraill.

Fe fydd y prif ddigwyddiad yn cael ei ddarlledu'n fyw ar deledu a radio o Neuadd Dewi Sant.

Image caption Mae'r soprano 29 oed o Abertawe, Celine Forrest, 29, ymysg y cyntaf i gystadlu ddydd Sul

Cafodd cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd ei chreu yn 1983 gan BBC Cymru, ac mae'r BBC yn parhau i ddatblygu fformat y gystadleuaeth ynghyd â'i darllediad. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu mewn cyd-weithrediad â Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd.

Eleni ymgeisiodd mwy na 300 o gantorion talentog o 55 o wledydd i ddod i brifddinas Cymru i gynrychioli eu gwlad. Bydd yr 20 yn y rownd derfynol yn perfformio o flaen rheithgor o arbenigwyr opera a cherddorol cydnabyddedig.

Mae'r cantorion yn cystadlu am dair gwobr; teitl BBC Canwr y Byd, gwobr Cân BBC Canwr y Byd, a gwobr cynulleidfa Y Fonesig Joan Sutherland.